Meet the Tutors / Cwrdd a'r Tiwtoriaid

Meet the Tutors / Cwrdd a'r Tiwtoriaid Ben Creighton Griffiths

Ben Creighton Griffiths

bjcg.co.uk

Benjamin took up the harp in 2000 and made rapid progress winning many competitions most notable being in 2008, when aged just 11, he won the prestigious Under 16 Concours de harpe Lily Laskine in Paris.

Benjamin has earned himself an enviable reputation as an International Harpist. Major events include performances at the European Harp Symposium, (Wales 2007), 10th World Harp Congress (Netherlands, 2008), 11th World Harp Congress (Canada, 2011), Rio International Harp Festival (Brazil 2010, 2011 & 2012) and Journéees de la harpe en Martinique et Guadeloupe (Caribbean 2013).He has also performed at other events in Czech Republic, Croatia, France, Hungary, Italy, Netherlands & Spain.

Closer to home he has performed as a soloist at Edinburgh International Harp Festival, The Summer Harp Festival, Monmouth Festival, Ludlow Festival and Wales International Harp Festival. He is Principal Harp of Concert Orchestra de Cymru and has performed as a concerto soloist with The Welsh Sinfonia, Welsh Concert Orchestra, Orchestra West, Llandenny Strings, Cardiff Philharmonic, les Alizés & the orchestra of Le Garde Républicaine.

While he plays all genre of music his passion is jazz which he has studied since 2004 on both the piano and harp. Now recognised as being in the forefront of the Electro-Acoustic Jazz Harp scene he is now in demand as a teacher as well as a performer.

For further information and details of Benjamin’s recordings and published music please visit his web site.

Dechreuodd Benjamin chwarae’r delyn yn 2000, gan ddatblygu yn gyflym iawn ac ennill sawl cystadleuaeth. Y fwyaf nodedig oedd gwobr fawreddog y Concours de harpe Lily Laskine dan 16 ym Mharis, ac yntau ond yn 11 mlwydd oed.

Mae Benjamin wedi gwneud enw rhagorol iddo’i hun fel telynor rhyngwladol. Mae wedi perfformio mewn digwyddiadau pwysig megis Symposiwm Telynau Ewropeaidd (Cymru 2007), 10fed Gynhadledd Telynau’r Byd (Yr Iseldiroedd 2008), 11eg Gynhadledd Telynau’r Byd (Canada 2011), Gŵyl Delynau Ryngwladol Rio (Brasil 2010,2011 a 2012) a Journées de la harpe en Martinique et Guadeloupe ( Caribî 2013). Bu hefyd yn perfformio mewn digwyddiadau eraill yng Ngweriniaeth Tsiec, Croatia, Ffrainc, Hwngari, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd a Sbaen.

Yn nes adref, perfformiodd fel unawdydd yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Delynau’r Haf yng Ngŵyl Trefynwy, Gŵyl Llwydlo ac yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol Cymru. Fe yw prif delynor Cerddorfa Gyngerdd De Cymru ac mae e wedi perfformio fel unawdydd concerto gyda Sinfonia Cymru, Cerddorfa Gyngerdd Cymru, Orchestra West, Llandenny Strings, Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, les Alizes a cherddorfa Le Garde Républicaine.

Er ei fod yn chwarae pob math o gerddoriaeth, ei gariad cyntaf yw jazz a bu’n astudio jazz ers 2004 ar y piano a’r delyn. Mae e bellach yn cael ei gydnabod fel un o ragflaenwyr y sîn Jazz Electro-Acwstig ar y delyn. Mae cryn alw amdano fel athro ac fel perfformiwr.

Am wybodaeth bellach a manylion am recordiadau a cherddoriaeth a gyhoeddwyd gan Benjamin, ewch i’w wefan.


November 16th-17th / Tachwedd 16eg -17eg